Millicent Fawcett | |
---|---|
Ganwyd | Milicent Garrett 11 Mehefin 1847 Aldeburgh |
Bu farw | 5 Awst 1929 Gower Street |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, llenor, economegydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Electoral Disabilities of Women |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol |
Tad | Newson Garrett |
Mam | Louisa Dunnell |
Priod | Henry Fawcett |
Plant | J. Malcolm Fawcett, Philippa Fawcett |
Gwobr/au | Boneddiges yr Uwch Groes o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Roedd Y Feistres Millicent Garrett Fawcett GBE (11 Mehefin 1847 – 5 Awst 1929) yn ffeminist, yn arweinydd gwleidyddol ac yn arweinydd undeb. Caiff ei hadnabod yn bennaf am ei gwaith yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod.
Fel swffragist (yn hytrach na swffraget), roedd hi'n ymgyrchydd cymedrol ond di-flino. Aeth llawer o'i hegni ar yr ymdrech i wella cyfleoedd i fenywod mewn addysg bellach, a yn 1875 bu iddi gyd-sefydlu Coleg Newnham, Caergrawnt.[1] Yna daeth yn lywydd ar Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau y Bleidlais i Fenywod (neu'r NUWSS), a bu'n lywydd o 1897 hyd at 1919. Ym mis Gorffennaf 1901 penodwyd hi i arwain comisiwn Llywodraeth Prydain yn Ne Affrica i ymchwilio i amodau'r gwersylloedd crynhoi a oedd wedi'u creu yno ar ddechrau Ail Ryfel y Boer. Roedd ei hadroddiad yn atgyfnerthu'r hyn roedd yr ymgyrchydd Emily Hobhouse am amodau'r gwersylloedd.[2]